![]() |
||
| HELO - HELLO | PWYLLGOR - COMMITTEE | YMUNO - JOIN | DIGWYDDIADAU - EVENTS | LLYFRGELL - LIBRARY | CEISIO - APPLYING | ||
|
Erthygl a ysgrifennwyd yn ystod Gwyliau'r Pasg 2005 ar gyfer papur newydd ysgol Glantaf, 'Tafod y Taf' Gair o'r Brifysgol: Luke Pearce, Coleg y Brenin, Prifysgol Caergrawnt Newydd orffen traethawd. Y bedwaredd allan o bump i fi orfod eu cyflawni dros wyliau'r Pasg. Mae myfyrwyr yn cael eu gwthio'n galed yma, ac mae'r disgwyliadau'n uchel. Serch hynny, os gweithio caled, yna chwarae caled: does dim angen ein hannog i gyflawni ail hanner y dywediad hwn! Rydw i'n mwynhau fy nghwrs: Gwleidyddiaeth, Cymdeithaseg, Seicoleg ac Anthropoleg Gymdeithasol. Hyd yn hyn mae cyfle wedi bod i astudio llwyth o bynciau diddorol, yn cynnwys democratiaeth, Ghandi, anghydraddoldeb, y wasg, Marcsiaeth, y camdrin carcharorion a ddigwyddodd yn Abu Ghraib, gallu meddyliol, a theuluoedd. Peidiwch a chredu'r sïon: nid yw Caergrawnt yn siomi o ran cymdeithasu. Mae rhyw drideg o golegau, pob un yn llawn myfyrwyr ifainc (a bar!). Sut bynnag rydych yn mwynhau treulio'ch amser, mae digon i'w wneud. Ceir cannoedd o gymdeithasau yn y Brifysgol: Cymdeithas y Mabinogi (y gymdeithas Gymraeg), y 'Spanish Inquisition' (cymdeithas Monty Python), Cymdeithas Tseina, 'King's among men' (cymdeithas yfed Coleg y Brenin), Yr Undeb ddadlau, Undeb Cristnogol a Chymdeithas y Cenhedloedd Unedig; detholiad bach yn unig yw'r rhain, heb sôn am yr holl glybiau chwaraeon a cherddoriaeth. Mae canol y ddinas ei hunan yn frith o fwytai a thafarndai, ac ambell glwb nos. Ceir cyfle i fwyta prydoedd ffurfiol yn y colegau yn weddol rhad, ac mae pob coleg yn cynnal 'May Ball' neu ddathliad arall yn ystod tymor yr haf. Mae bandiau'n perfformio yn y colegau'n gyson. Syniad rhai o Gaergrawnt yw prifysgol yn llawn pobl cyfoethog llawn eu sgidiau a aeth i ysgolion preifat. Nid dyma fy mhrofiad i. Er bod ambell un, fel ymhob prifysgol mae'n siwr, yn hoffi gweld eu hun yn uwch nag eraill, mae'r mwyafrif o bobl yn gyfeillgar, diddorol a hwyliog, ac wedi dod o gefndiroedd digon arferol. Ar yr un pryd, mae digon o bobl ifanc unigryw: yn y tymor cyntaf yn unig des i'n ffrindiau â bachgen o Orllewin Affrig oedd yn medru pump iaith, ymgeisydd y Blaid Lafur yn etholaeth 'Sevenoaks', nai Prif Weinidog Irac, prif gyfansoddwr Cerddorfa Ieuenctid Genedlaethol Prydain, bachgen o Afghanistan yn astudio meddygaeth a lwyddodd i ddianc o'r ymladd yn ei wlad a chael lloches ym Mhrydain, a sawl un arall sy'n debyg o ddod yn gantorion pop, gwyddonwyr, awduron enwog neu'n wleidyddion mewn blynyddoedd i ddod. Yn ogystal â'r bobl sydd wedi dod yma o ysgolion drutaf y wlad, mae yna sawl un sydd wedi cyrraedd yma yng ngwyneb pob rhwystr. Mae Undeb y Myfyrwyr yn gweithio'n galed i annog mwy o ymgeiswyr o ysgolion stad i'r Brifysgol, ar ôl i adroddiad ddangos bod 3,000 o bobl ifanc â graddau digon da yn gwrthod ystyried ymgeisio i Rydgrawnt yn y lle cyntaf. Os oes diddordeb gennych mewn ymgeisio, yna gwnewch hynny'n sicr. Hyder sy'n bwysig: dyna'r unig beth sydd gan yr ymgeiswyr o ysgolion preifat dros rai ysgolion stad. Mae'r mwyafrif wedi dod yma er mwyn dysgu am fywyd. Ers cyrraedd yn yr Hydref, rydw i wedi cael mwy o gyfleuoedd nac erioed o'r blaen. Rhaid cofio'r dechreuad da y rhoddwyd i mi yn Ysgol Gynradd Sant Baruc, ac yna dros saith mlynedd yn Ysgol Glantaf. Rydw i'n clywed bod cyn-ddisgyblion eraill Glantaf yn mwynhau ac yn llwyddo yn y byd gwaith neu ym mhrifysgolion ar draws Prydain; gobeithio y bydd cyfle i bawb gwrdd unwaith eto yn y dyfodol. Haf fydd y tymor gorau. Pyntio ar yr afon Cam, cymdeithasu, dathlu a mwynhau bywyd prifysgol yn gyffredinol...o ie, ac ambell arholiad. Methu aros i ddychwelyd. |
||