![]() |
||
| HELO - HELLO | PWYLLGOR - COMMITTEE | YMUNO - JOIN | DIGWYDDIADAU - EVENTS | LLYFRGELL - LIBRARY | CEISIO - APPLYING | ||
| C Y F A N S O D D I A D C Y M D E I T H A S Y M A B I N O G I | ||
|
1. ENW: Gelwir y gymdeithas 'Cymdeithas y Mabinogi'. O hyn ymlaen cyfeirir ati fel ‘y gymdeithas.’ 2. AMCANION: Bydd y gymdeithas yn anwleidyddol, yn ddwyieithog ac yn hyrwyddo a meithrin diddordeb yng Nghymru, yr Iaith Gymraeg a materion Cymreig. 3. AELODAETH: a) Bydd aelodaeth yn agored i holl aelodau’r brifysgol, ac unrhywun arall sydd â diddordeb, yn amodol ar ganitad y pwyllgor.
b) Codir tâl aelodaeth, naill ai’n
flynyddol neu am oes, am swm y penderfynir c) Bydd gan y pwyllgor yr hawl i gynnig aelodaeth er anrhydedd ac aelodaeth am oes i unrhywun yr ystyrir yn deilwng. ch) Bydd gan y gymdeithas hawl i ddiarddel aelod y bydd ei h/ymddygiad yn debygol o ddwyn enw drwg i’r gymdeithas. Bydd y diarddeliad yn amodol ar bleidlais yng nghyfarfod cyffredinol nesaf y gymdeithas. 4. PWYLLGOR: a) Bydd y gymdeithas yn cael ei rheoli gan bwyllgor a etholir yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB). Ethloir y trysorydd yn ystod tymor yr Hydref. b) Aelodau’r pwyllgor craidd yw’r: i) Llywydd ii) Is-Lywydd iii) Trysorydd iv) Ysgrifennydd Aelodau’r pwyllgor cyffredinol yw’r: i) Swyddog Cyhoeddurswydd ii) Swyddog y Wefan iii) Dau swyddog heb swydd benodol c) Yn ogystal a’r rhain, mi fydd Uwch-Drysorydd, a fydd yn aelod o senedd y Brifysgol neu’n un a gymeradwyir gan yr Is-Broctor. Bydd yr Uwch-Drysorydd yn cael ei b/phenodi gan aelodau’r pwyllgor craidd. ch) Bydd mwyafrif o aelodau etholedig y pwyllgor craidd yn fyfyrwyr amser llawn israeddedig neu graddedig o’r Brifysgol. d) Cadeirir cyfarfodydd y pwyllgor gan y Llywydd, neu’r Is-Lywydd yn absenoldeb y Llywydd. Os nad oes un ohonynt yn bresennol, dewisir cadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwnnw gan aelodau’r pwyllgor. dd) Bydd y pwyllgor yn cyfarfod o leiaf unwaith y tymor. e) Rhaid i'r Ysgrifennydd alw cyfarfod o'r pwyllgor pan fynn y llywydd, neu ar gais o leiaf tri aelod o'r pwyllgor. f) Rhaid i'r Ysgrifennydd hysbysu pob aelod o'r pwyllgor am y cyfarfod o leiaf deuddydd cyn y cyfarfod oni bo argyfwng. 5. CYFARFODYDD CYFFREDINOL: a) Gelwir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) tua diwedd tymor y Grawys. b) Gall y Llywydd neu'r pwyllgor alw cyfarfod cyffredinol pan y dymunant. Os y derbyniant gais i alw cyfarfod cyffredinol a gefnogir gan ddeg aelod o'r gymdeithas rhaid iddynt wneud hynny cyn pen wythnos. c) Bydd yn ddyletswydd ar yr Ysgrifennydd i roi gwybod i bob aelod o'r gymdeithas am y cyfarfod o leiaf deuddydd o flaen llaw. Yn yr hysbysiad rhaid nodi y materion sydd i'w trafod. ch) Bydd hawl gan bob aelod o'r gymdeithas a fydd yn bresennol i bleidleisio mewn cyfarfod cyffredinol. d) Os gelwir pleidlais, bydd angen mwyafrif i basio’r cynnig. dd) Cadeirir y cyfarfod cyffredinol gan y Llywydd, neu’r Is-Lywydd yn absenoldeb y Llywydd. Os nad oes un ohonynt yn bresennol, dewisir cadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwnnw gan aelodau’r pwyllgor. f) Gall y cyfarfod blynyddol ethol llywydd anrhydeddus.
6. MATERION ARIANNOL b) Penderfynir ar y banc neu gymdeithas adeiladu gan y Pwyllgor Craidd.
c) Llofnod yr Is-Drysorydd fydd ar y cyfrif
bancio. dd) Bydd yr Is-Drysorydd yn paratoi cyfrifon blynyddol y Gymdeithas erbyn y dyddiad a benodir gan yr Is-Broctor.
e) Cyn cyflwyno cyfrifon blynyddol y
gymdeithas, bydd yr Is-Drysorydd yn cyflwyno adroddiad ar gyfrifon y
Gymdeithas dros y flwyddyn flaenorol i'r Pwyllgor Craidd.
ff) Bydd yr Uwch-Drysorydd yn trefnu i
gyfrifon y Gymdeithas gael eu harchwilio'n gywir, naill ai ganddo ef
/ ganddi hi, neu gan rywun arall a gymeradwywyd gan Ordeiniadau'r
Brifysgol.
ng) Tra bo’r Gymdeithas wedi ei Chofrestru
gan yr Is-Broctor, dyletswydd y Pwyllgor Craidd fydd sicrhau bod y
gymdeithas yn cydfynd â gofynion cofrestru fel Cymdeithas o'r
Brifysgol. a) Ni newidir unrhyw agwedd o’r cyfansoddiad ond trwy ganiatad deuparth yr aelodau a fo'n bresennol mewn cyfarfod cyffredinol. 8. DATGORFFORIAD a) Gellir datgorffori’r gymdeithas mewn Cyfarfod Cyffredinol, ar yr amod bod pythefnos o rybudd wedi’i roi o’r bwriad hwn i’r aelodau. Bydd angen i ddeuparth yr aelodau sy’n bresennol yn y cyfarfod hwn bledleisio o blaid y cynnig i ddatgorffori’r gymdeithas er mwyn gwireddu’r datgorfforiad. b) Fel rhan o’r cynnig i ddatgorffori’r gymdeithas, dylid trefnu trosglwyddo unrhyw feddianau sydd gan y gymdeithas, wedi iddi dalu ei dyledion, i un o Gymdeithasau Cofrestredig y Brifysgol neu Cynghrair y Cymdeithasau. Casi Dylan, Bryn Jones, Luke Pearce, Jamie White : Pwyllgor 2004/05
|
||